Tystiolaeth Cynghrair Canser Cymru i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r Cynnydd a wnaed hyd yma wrth weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.
1. Cefndir
Mae Cynghrair Canser Cymru (WCA) yn cynnwys un ar ddeg o gyrff gwirfoddol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo atal canser, triniaeth ganser, ymchwil a gofal canser i bobl yng Nghymru. Bob blwyddyn rydym yn buddsoddi dros £20m yng Nghymru ac yn cyfrannu i ddatblygu polisi canser.
Bydd pob aelod o WCA yn cyflwyno ei ymateb ei hun i'r Ymchwiliad hwn; felly, bydd yr ymateb hwn gan WCA yn canolbwyntio ar y materion strategol cyffredinol y credwn sy'n sylfaenol er mwyn gweithredu'r cynllun yn llwyddiannus. Byddwn yn canolbwyntio ar y cwestiwn cyntaf, "A yw Cymru'n dilyn yr amserlen i gyflawni'r canlyniadau a'r mesurau perfformiad, fel y'u nodwyd yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, erbyn 2016?”
Cyflwynodd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Cymru a gyhoeddwyd yn 2012 weledigaeth i leihau effaith canser ar fywydau pobl a gwella canlyniadau erbyn 2016 drwy:
Atal canser
Canfod canser yn gyflym
Cyflawni triniaeth a gofal cyflym, effeithiol
Ateb anghenion pobl
Rhoi gofal ar derfyn oes
Gwella gwybodaeth
Targedu ymchwil
Mae'r cynllun yn herio pob Bwrdd Iechyd Lleol (BILLau) i gynllunio a chyflawni gofal canser o ansawdd uchel i'w poblogaethau.
Croesawodd Cynghrair Canser Cymru'r ffaith i'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser gael ei gyflwyno ac i'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Canser (CIG) gael ei greu ym mis Mehefin 2012. Fodd bynnag, credwn fod angen gwneud mwy o waith yn enwedig o ran casglu data a dadansoddi'r wybodaeth i lywio'r gweithredu; cynllunio cenedlaethol mwy effeithiol; mwy o fonitro yn erbyn mesuriadau perfformiad a bod angen i ragor o strwythurau atebolrwydd gael eu rhoi yn eu lle.
2. Defnyddio data'n fwy effeithiol
Mae data i ddangos a yw Cymru ar y llwybr i gyflawni'r canlyniadau a'r mesurau perfformiad a nodwyd yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser erbyn 2016, ar gael drwy Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) a thrwy drefniadau monitro perfformiad eraill gan gynnwys yr Arolwg o Brofiad Cleifion Canser Cymru, safonau canser, ac adolygu gan gymheiriaid.
Fodd bynnag, rydym yn dal i bryderu nad oes digon o ffocws yn Llywodraeth Cymru neu yn y GIG i sicrhau bod y data sydd ar gael yn cael eu defnyddio i yrru'r gweithredu sydd ei angen i wneud y gwelliannau angenrheidiol i ofal canser yn gyson ledled Cymru.
Credwn ei bod yn annhebygol y bydd Cymru'n gwireddu’r dyheadau a nodwyd yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser heb ddadansoddiad llawer mwy a manylach o'r data a'r wybodaeth arall sydd ar gael, er mwyn nodi lle mae'r bylchau mewn gwasanaethau a pherfformiad, a lle mae'n rhaid gwneud gwelliannau.
3. Mwy o Gynllunio ac Arweiniad Cenedlaethol
Rhoesom groeso i’r gofyniad a oedd yn y Cynllun fod rhaid i BILlau gynhyrchu eu cynlluniau cyflawni ar gyfer canser blynyddol eu hunain a fyddai'n helpu i deilwra'r gofal i'w gwasanaethau a'u poblogaethau lleol. Fodd bynnag, mae cryn amrywiaeth yng nghynnwys, dyfnder ac ansawdd cynlluniau BILl gwahanol, ac mae hyn yn debygol o arwain at fwy o amrywiaeth yn y mynediad i driniaethau a gofal, o atal a diagnosis cynnar, drwy driniaeth a thu hwnt.
Heb ysgogiad cenedlaethol i gyflawni'r nodau yn y cynllun, mae'r ddibyniaeth a'r ffocws cyfredol ar gynllunio a gweithredu ar lefel bwrdd iechyd lleol, yn cynyddu yn hytrach nag yn lleihau'r anghysondeb o ran mynediad i ofal ledled Cymru.
Credwn fod angen cynllunio rhai gwasanaethau'n genedlaethol neu ar sail Cymru neu rwydwaith oherwydd cymhlethdod triniaeth ganser ac oherwydd yn aml, bod angen i gleifion gael triniaeth gan nifer o dimau amlddisgyblaethol mewn amrywiaeth o ysbytai sy'n rhychwantu nifer o ffiniau byrddau iechyd.
Mae diffyg strwythur cynllunio a chynnal cenedlaethol wedi golygu nad oes gan Gymru'r gallu i reoli mentrau ar sail Cymru gyfan, gan gynnwys rheoli prosiectau elfennau allweddol y cynllun megis symud gwaith yn ei flaen ar ddiagnosis cynnar sydd wedi cael ei nodi'n flaenoriaeth.
Er enghraifft, mae diffyg ymagweddu cenedlaethol wedi llesteirio gweithredu menter y gweithiwr allweddol. Yn araf y cyflwynwyd hyn ac mae gweithredu rôl y gweithiwr allweddol wedi cael ei ddehongli a'i gymhwyso'n anghyson ar draws byrddau iechyd.
Rydym yn argymell y dylid rhoi strwythur cynllunio a phrosesau cynnal cenedlaethol yn eu lle sy'n ymgorffori'r cyfrifoldeb dros gasglu data a dadansoddi'r wybodaeth yn well; dros goladu'r cynnydd yn erbyn y targedau a gyflawnir; dros gynghori BILLau lle gwelir bod bylchau perfformiad mewn gwasanaethau; a thros gyflawni'r agweddau ar y cynllun sydd ag angen ffocws ac ymrwymiad cenedlaethol systematig. Dylai'r adnodd/tîm hwn fod yn fforwm hefyd ar gyfer rhannu a datblygu'r arferion da a'r rhai gorau.
Er ein bod yn croesawu'r ffaith i'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Canser (CIG) gael ei greu, lle mae Cynghrair Canser Cymru wedi cael ei gydnabod yn aelod allweddol, rydym o'r farn nad oes gan y grŵp ddigon o adnoddau ar hyn o bryd i gynorthwyo ei waith y tu hwnt i'r cyfarfodydd yn enwedig o ran symud mentrau cenedlaethol yn eu blaenau.
Byddai strwythur cynllunio a thîm gweithredu cenedlaethol i roi cymorth i weithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn helpu'r CIG i weithio'n fwy effeithiol drwy bontio'r bwlch sydd rhwng y polisi cenedlaethol a’r gweithredu lleol. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru'n ystyried y strwythurau a'r prosesau y byddai eu hangen i symud ei huchelgais yn ei flaen a'i weithredu.
Hoffem weld mwy o dystiolaeth o arweiniad cenedlaethol, a gosod targedau sy'n mynd y tu hwnt i amserlen blwyddyn gyda mwy o gynllunio prosiectau cadarn yn sail i bob blaenoriaeth. Hefyd, hoffem weld fod gan bob amcan eglur derfynau amser/ targedau y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn.
4. Atebolrwydd Mwy Eglur
Ar hyn o bryd, mae'n aneglur sut mae'r strwythurau atebolrwydd a'r prosesau cyflawni yn erbyn cynlluniau'r byrddau iechyd yn gweithio neu sut cesglir tystiolaeth y gellir ei defnyddio'n offeryn i feincnodi perfformiad arno.
Rydym yn croesawu'r gofyniad i BILlau gyhoeddi eu cynlluniau cyflawni ar gyfer canser a'u hadroddiadau blynyddol unigol ar eu gwefannau, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, a all fod yn un o'r ysgogiadau allweddol ar gyfer newid. Fodd bynnag, mewn gwirionedd mae angen trefniadau atebolrwydd mwy ffurfiol hefyd gyda disgwyliadau eglur o ran cyflawni gan fyrddau iechyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau, ble a phan welir bod angen gwella perfformiad, fod camau gweithredu'n digwydd a bod cymorth ychwanegol yn cael ei roi.
Cred WCA na wireddir yr uchelgeisiau a nodir yn y cynllun heb ragor o gynllunio, prosesau a strwythurau cenedlaethol cadarn i roi cymorth i'r gweithredu er mwyn casglu data llawn gwybodaeth; gwneud dadansoddiad manwl cywir i lywio a nodi lle mae angen camau gweithredu; goruchwylio cynllunio cenedlaethol a mentrau dros Gymru gyfan lle y bo angen; strwythur monitro ac atebolrwydd mwy cadarn.
Mae angen cydnabod bod angen newid mwy sylfaenol yn y dull o synied am faint a chyflymdra'r gweithredu sydd ei angen faint o newid systemau a newid diwylliannol sydd ei hangen er mwyn gwireddu’r uchelgais a nodwyd yn y cynllun erbyn 2016.
5. Casgliad
I grynhoi, mae Cynghrair Canser Cymru yn croesawu'r uchelgais a'r cyfeiriad a nodwyd yn Law yn Llaw yn erbyn Canser - Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012. Mae dwy flynedd bellach wedi mynd heibio ers ei gyhoeddi ac nid ydym eto wedi cael ein darbwyllo bod y dyheadau a nodwyd yn y Cynllun yn cael eu cyflawni ar y cyflymder a'r raddfa yr oeddem wedi gobeithio amdanynt. Mae cryn waith i'w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod y nodau a bennwyd ar gyfer 2016 yn cael eu cyflawni ar draws pob math o ganser ac ar gyfer pob claf canser yng Nghymru. Mae gormod o amrywiaeth mewn canlyniadau a phrofiad cleifion o hyd rhwng ysbytai a byrddau iechyd na ellir eu cyfiawnhau gan amgylchiadau lleol yn unig.
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei hymagweddu tuag at gynllunio cenedlaethol a monitro'r cynnydd a wneir wrth weithredu. Mae angen inni edrych yn fwy na blwyddyn ymlaen gyda ffocws ar lawer mwy o gydweithredu ar draws byrddau iechyd a thimau canser lle y bo angen i sicrhau bod cleifion yn cael gofal amserol sydd wedi'i gydlynu.
Mae angen newid o ran syniadau ac ymagweddu i sicrhau y gellir gwireddu’r cyfeiriad a'r uchelgais a bennwyd yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser, yr ydym yn ei gefnogi'n llawn, ar gyfer pob claf canser, ble bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Cynghrair Canser Cymru
4 Ebrill 2014
Cyrff aelodaeth
Gofal Canser y Fron
Ymchwil Canser y DU
Ymchwil Canser Cymru
Clic Sargeant
Hosbisau Annibynnol Cymru
Cymorth Canser Macmillan
Maggies
Gofal Canser Marie Curie
Canser y Brostad y DU
Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau
Tenovus
Atodiad A
Cynghrair Canser Cymru
Galwadau am Flaenoriaethu Polisïau
Mae Cynghrair Canser Cymru (WCA) yn cynnwys deg o gyrff gwirfoddol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo rhwystro canser, triniaeth ganser, ymchwil a gofal canser i bobl yng Nghymru. Bob blwyddyn rydym yn buddsoddi dros £20m yng Nghymru ac yn cyfrannu i ddatblygu polisi canser.
Mae Cynghrair Canser Cymru yn croesawu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Cynllun Cyflawni o ran gyrru gwelliannau mewn gwasanaethau canser ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau momentwm parhaus wrth weithredu ymrwymiadau allweddol yn y cynllun.
Credwn fod gan y sector gwirfoddol rôl bwysig i'w chwarae wrth gyflawni gwelliannau i rai wedi'u heffeithio gan ganser, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, y GIG ac eraill er mwyn gwneud hyn.
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r meysydd allweddol lle credwn fod angen ymrwymiad pellach ac mae'n awgrymu camau gweithredu.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:-
Susan Morris, Cadeirydd, Cynghrair Canser Cymru SMorris@macmillan.org.uk Ffôn: 01656 867974
Cynghrair Canser Cymru: Gofal Canser y Fron, Ymchwil Canser Cymru, Ymchwil Canser y DU, Clic Sergeant, Hosbisau Cymru, Cymorth Canser Macmillan, Maggie's, Marie Curie, Myeloma UK a Tenovus. <http://www.walescanceralliance.org.uk